Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Hydref 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


162(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau Amserol

 

Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

</AI4>

<AI5>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

(5 munud)

NDM6825 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27 – Gorchmynion Adran 116C’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2018; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Dogfen Ategol
Llythyrau gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Llywydd a Llywodraeth Cymru

 

</AI6>

<AI7>

7       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

(30 munud)

NDM6819 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl yng nghyfraith Cymru.

2. Diben y Bil hwn fyddai cryfhau dulliau polisi sy'n seiliedig ar hawliau i hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau a defnyddio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl fel fframwaith ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl (Saesneg yn unig)

</AI7>

<AI8>

8       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd – Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau - Ni chyflwynwyd Cynnig

 

</AI8>

<AI9>

9       Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru)

(30 munud)

NDM6821 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.  Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad: "Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018;

2. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru);

3. Yn cytuno i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i:

a)    newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

b)   ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad,

c)    diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag anghymhwyso, a

d)   gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â hwy.

Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad   

Datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru)

</AI9>

<AI10>

10   Dadl ar NDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren

(60 munud)

NDM6813

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a

b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi:

a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.

b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley. 

c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.

d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.

Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972) (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwyntiau newydd:

cymryd i ystyriaeth y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Athro Emeritws Keith Barnham ynghylch damweiniau pwll oeri yn Hinkley Point A yn y 1960au;

cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol y caiff dympio gwaddod o Hinkley yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru, y boblogaeth arfordirol ac amgylchedd morol Cymru.

Yr Athro Keith Barnham, 'New evidence of the need to test Hinkley Point sediments for Uranium and Plutonium' - gosodwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau

</AI10>

<AI11>

11   Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

12   Dadl Fer

(30 munud)

NDM6820 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru

Casnewydd: economi, seilwaith a chyfleoedd.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Hydref

2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>